#

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-0761

Teitl y ddeiseb: Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru.

Mae’r elusen hon yn unigryw yng Nghymru. Nid yw Autism Spectrum Connections Cymru yn cael dim cyllid gan y Llywodraeth ar hyn o bryd. Mae’n dibynnu’n llwyr ar gyllid gan ffynonellau nad ydynt, o angenrheidrwydd, yn gallu ei chefnogi’n barhaol.

Mae’r ganolfan galw heibio agored, unigryw hon yn chwarae rhan bwysig o ran gwella bywydau pobl sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru.

Hoffem gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd yr elusen hon yn parhau i fod ar agor ac yn cael ei hariannu’n llawn o hyd.                                                                          

Autism Spectrum Connections Cymru a pholisi awtistiaeth yng Nghymru

Cyflwyniad

Mae awtistiaeth yn gyflwr datblygiadol sy'n effeithio ar allu person i gyfathrebu a rhyngweithio â phobl eraill. Mae'n gyflwr sbectrwm, ac felly mae'n effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol; gall person ag awtistiaeth gael nodweddion cysylltiedig eraill, fel sensitifrwydd synhwyraidd neu anabledd dysgu. 

Mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru yn amcangyfrif bod tua 34,000 o bobl yng Nghymru yn awtistig, a bod awtistiaeth yn rhan o fywyd bob dydd tua 136,000 o bobl.

Autism Spectrum Connections Cymru

Mae gan wefan Mentrau Awtistiaeth wybodaeth am Autism Spectrum Connections Cymru. 

Mae Autism Spectrum Connections Cymru yn rhan o grŵp elusennau Mentrau Awtistiaeth.  Mae'n darparu gwasanaeth i bobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr yng Nghymru. Mae'n rhedeg siop un stop yng Nghaerdydd ar gyfer pobl sydd ag awtistiaeth, lle gall oedolion sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth gael mynediad at wahanol fathau o gyngor a chymorth a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol. Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn bennaf ar gyfer pobl dros 16 oed sydd wedi cael diagnosis o syndrom Asperger neu awtistiaeth uchel-weithredol.

Mae'r gwasanaeth, sy'n cael ei gynnig yn rhad ac am ddim, yn agored i unrhyw un sydd â diagnosis o awtistiaeth ac sy'n byw yn yr ardaloedd a ganlyn: Caerdydd, Casnewydd, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg, Blaenau Gwent, Tor-faen, Sir Fynwy a Phen-y-bont.

Mae Autism Spectrum Connections Cymru yn nodi mai ei fwriad yw gweithio mewn partneriaethau go iawn gyda phobl sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistig, eu teuluoedd a phobl eraill sy'n bwysig iddynt. Mae ei ddull gweithredu unigolyddol yn canolbwyntio ar y person, a'r bwriad yw galluogi pobl i wneud yr hyn sy'n bwysig iddynt a'u cynorthwyo i ddod yn bobl lwyddiannus sydd ag awtistiaeth.

Awtistiaeth yng Nghymru: crynodeb o fentrau polisi a mentrau deddfwriaethol allweddol Llywodraeth Cymru 

Y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig

Cafodd y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ei lansio gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2008. Hwn oedd y cynllun cyntaf o'i fath yn y DU. Roedd y cynllun yn cyflwyno canllawiau ar awtistiaeth i asiantaethau lleol, gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Darparwyd cyllid i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru at ddibenion datblygu cymorth a oedd yn canolbwyntio ar awtistiaeth. Cafodd y cyllid hwn ei neilltuo hyd at fis Ebrill 2015. Ar ôl hynny cafodd ei drosglwyddo i gyllidebau cyffredinol awdurdodau lleol drwy'r grant cynnal refeniw.

Mae'r camau gweithredu allweddol sydd wedi'u nodi yn y cynllun gweithredu yn cynnwys:

§  penodi arweinydd awtistiaeth ym mhob awdurdod lleol; 

§  sefydlu grŵp rhanddeiliaid lleol ym mhob ardal cyngor a ddylai gynnwys rhieni, gofalwyr a phobl ag awtistiaeth; a

§  datblygu cynlluniau gweithredu lleol ynghylch awtistiaeth.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad o'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar 30 Tachwedd 2016. Mae gan y cynllun ar ei newydd wedd dri maes blaenoriaeth allweddol:

§  Codi ymwybyddiaeth, gwybodaeth a hyfforddiant;

§  Asesu a diagnosis – gan gynnwys cyflwyno targed amser aros 26 wythnos o’r atgyfeiriad i’r apwyntiad asesu cyntaf ar gyfer plant ag awtistiaeth; a

§  Diwallu anghenion cymorth – gan gynnwys ymdrechion i wella'r gefnogaeth a ddarperir i blant a phobl ifanc mewn addysg drwy'r rhaglenni 'Dysgu gydag Awtistiaeth'.

Bydd y cynllun yn cael ei gefnogi gan wasanaeth newydd ar gyfer pobl o bob oed, sef y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol, a fydd yn cael ei gyflwyno ym mhob bwrdd iechyd ar draws Cymru erbyn 2019.  Bydd timau arbenigol ym mhob rhanbarth yn darparu diagnosis i oedolion, cymorth yn y gymuned, a chyngor a gwybodaeth i oedolion sydd ag awtistiaeth, ac i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Yn wreiddiol, bwriad Llywodraeth Cymru oedd ariannu'r gwasanaeth drwy fuddsoddiad o £6 miliwn dros gyfnod o dair blynedd. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd y Llywodraeth fuddsoddiad ychwanegol £7 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd.

Y bwriad yw y bydd y cyllid hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu adnoddau awtistiaeth gwell, fel y prosiect "Weli Di Fi?"  a ddatblygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bwriad y fenter hon yw hyrwyddo dealltwriaeth a chynhwysiant mewn perthynas ag awtistiaeth o fewn cymunedau yng Nghymru, a hynny drwy greu taflenni a phosteri i’w rhoi mewn siopau, banciau a busnesau eraill, yn ogystal â phractisau deintyddion a meddygon teulu. Yn ogystal, gall pobl ag awtistiaeth ddewis a ydynt am wneud pobl eraill yn ymwybodol o’u hawtistiaeth drwy wisgo band llawes neu ddangos cerdyn.

Yn ogystal â'r gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwelliannau i'r drefn o ddarparu diagnosis a chefnogaeth niwroddatblygiadol i blant drwy'r rhaglen wella Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc , gan ddyrannu cyllid blynyddol o £2 miliwn at y dibenion hyn. 

Mae'r Cynllun Gweithredu Strategol wedi'i seilio ar Gynllun Cyflawni Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar gyfer 2016-2020, sy'n cynnwys manylion ynghylch y camau i'w cymryd a'r trefniadau ar gyfer eu monitro a'u mesur.  

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014i rym mewn perthynas â'r rhan fwyaf o'i dibenion ym mis Ebrill 2016. Mae'r Ddeddf yn darparu fframwaith newydd ar gyfer darparu gwasanaethau cymdeithasol i blant ac oedolion yng Nghymru, ac yn nodi dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas ag oedolion sydd angen gofal a chefnogaeth, plant sy'n derbyn gofal, y rhai sy'n gadael gofal, a phlant sy'n cael eu lletya, gan gynnwys plant sydd ag awtistiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu'r fframwaith a rhai o'r offerynnau y mae eu hangen ar gyfer datblygu gwasanaethau awtistiaeth.  Mae'r rhain yn cynnwys:

§  y gofyniad ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth;

§  y cam o greu byrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn sicrhau bod byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn cydweithio;

§  y pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi codau (gan gynnwys cod ar awtistiaeth) ynghylch y broses o arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol;

§  y ddyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i asesu anghenion gofal a chymorth eu poblogaethau a'r nodi gwasanaethau ataliol y mae eu hangen i'w diwallu, gan gynnwys gwasanaethau i bobl sydd ag awtistiaeth;

§  y gofyniad ar awdurdodau lleol i lunio cofrestrau gwirfoddol o blant anabl ac, os ydynt yn dymuno gwneud hynny, oedolion anabl; a 

§  darpariaethau yn y Ddeddf ar gyfer pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Cafodd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar 12 Rhagfyr 2016. Ar hyn o bryd, mae'n destun gwaith craffu gan y Cynulliad (Cyfnod 2). Mae'r Bil yn ceisio diwygio'r trefniadau ar gyfer diwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys awtistiaeth.

Ar hyn o bryd, mae trefniadau a deddfwriaeth ar wahân ar gyfer plant sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) hyd at 16 oed a phobl dros 16 oed sydd ag Anawsterau ac/neu Anableddau Dysgu. Byddai'r Bil yn eu disodli ac yn cyflwyno fframwaith deddfwriaethol sengl ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc hyd at 25 oed sy'n cael eu hadnabod fel rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Ceir rhagor o wybodaeth am y Bil yn un o gyhoeddiadau'r Gwasanaeth Ymchwil.

Bil Awtistiaeth (Cymru)

Enillodd Paul Davies AC balot Biliau'r Aelodau ar 28 Mawrth 2017. Yn sgil hynny, mae'n ceisio cyflwyno Bil o dan y teitl Bill Awtistiaeth (Cymru).

Prif ddiben Bill Awtistiaeth (Cymru) yw “darparu ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yng Nghymru, gyda'r nod o ddiogelu hawliau plant ac oedolion awtistig yng Nghymru a hyrwyddo'r hawliau hynny.” Byddai'r Bil hefyd yn “cydnabod y cyflwr yn statudol, gan fod awtistiaeth yn gyflwr ynddo'i hun.”

Mae'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Bil arfaethedig yn nodi mai bwriad y Bil yw ategu'r mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf yn hytrach na'u disodli, ac ategu darpariaethau'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

Cafodd y Bil arfaethedig ei groesawu gan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.

Cynhaliwyd dadl ar ganiatâd i symud ymlaen ddydd Mercher 14 Mehefin 2017, pan gytunodd y Cynulliad y dylai'r Bil fynd yn ei flaen.  Yn sgil hynny, mae gan Paul Davies AC 13 mis i gyflwyno'r Bil.